P-04-681 – Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael John Powell ar ôl casglu 185 Llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi i bobl ac etholwyr Cymru yr un hawliau i recordio cyfarfodydd Llywodraeth Leol ag sydd gan eu cymheiriaid yn Lloegr.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r darpariaethau manwl wedi’u cynnwys yn yr is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 2000, sef Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol) (Cyfarfodydd a Mynediad at Wybodaeth) (Lloegr) 2012. Deddfwyd y rheoliadau ym mis Medi 2012, a chawsant eu cyhoeddi ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pontypridd
· Canol De Cymru